Clirio
Y Broses Glirio – Llefydd yn brin
Dyma ni – diwrnod canlyniadau! Os ydych chi’n dal i chwilio am Brifysgol, yna bydd angen i chi benderfynu beth i’w wneud am eich dyfodol yn fuan iawn. Nod y wefan yma yw darparu’r cyngor a’r wybodaeth addas i chi.
Cysylltwch â ni i dderbyn arweiniad a fydd yn eich rhoi chi ar y llwybr cywir o ran dewis cwrs y byddwch chi’n ei fwynhau.
Yn wir, y mae Morgannwg yn brifysgol arbennig, buddsoddwyd dros £130 miliwn yn ddiweddar er mwyn datblygu a gwella’r campws, sy’n golygu y bydd yr adnoddau ymysg y gorau sydd ar gael – yr adnoddau addysgol a chymdeithasol.
Y mae gan Forgannwg gampysau yng Nghaerdydd a Threfforest (tua 30 munud o Gaerdydd) ac yn ol arweinlyfr Virgin y mae Caerdydd “yn llawn canolfannau dawnsio, yfed, siopa gwych – y gorau sydd ar gael y tu hwnt i Lundain”
Y mae galw mawr am raddedigion o Forgannwg, gyda 94% o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio neu gwneud gwaith ymchwil o fewn 6 mis o raddio (ffigwr a ddyfarnwyd gan HESA yn 2006/7).
